1a,2,3a,(4,5); 1a,2,3b,4; 1b,2,3a,5. O Arglwydd, dena'm serch a'm bryd, Ar y gwrthddrychau sy uwch y byd; Trysorau hyfryd can-mil gwell, Cuddiedig draw ar fryniau pell. [O Arglwydd, dena'm serch a'm bryd, Oddiar wrthddrychau gwael y byd; At drysor hyfryd can-mil gwell, A drefnwyd draw ar fryniau pell.] Draw mae ein Iesu mawr a'n Duw, A brodyr fyrddiwn ini'n byw; Mae yno rai'n clodfori o hyd, Fu'n teithio gyda ni'n y byd. Dringasant hwy i ben eu taith, Gorphen'sant ar eu llafur waith; Gwynfyd a f'ai yno byth, Yn moli'n beraidd yn eu plith. [Dringasant hwy i ben eu taith, 'N ol gorphen ar eu llafur waith; Gwynfyd na f'a'wn i yn eu plith, Yn moli'n beraidd yno byth.] Wel, cyn bo hir ni ddown ynghyd, O eithaf pedwar cẁr y byd; O'r gogledd, de, a'r dwyrain bell, I gael mwynhau cymdeithas well. Yno y derfydd poen a gwae, A holl gystuddiau'r duwiol rai; Caiff yr holl etholedig ryw Wyneb yn wyneb weled Duw. - - - - - O Arglwydd, dena'm serch a'm bryd Ar y gwrthddrychau uwch y byd; Trysorau hyfryd, can mil gwell, Cuddiedig draw ar fryniau pell. O am gael golwyg hoff o'r wlad, A gorsedd ein tragwyddol Dad; Lle'r eiste'n Prynwr mawr ei fri, Mewn corph cyffelyb i'n cyrph ni. Tyr'd, nefol G'lomen, oddi fry, A ch'od ni ar d'adenydd cu; Esgyn, a dwg ni fynu'n grwn Uwchlaw holl bethau'r bywyd hwn. Tyr'd â'r awelon hyny lawr Sy'n deffro'r arg'oeddiadau mawr; A deued y deheuwynt clyd, Sy'n codi'm henaid uwch y byd. - - - - - 1,2,(3),4. O Arglwydd, dena'm serch a'm bryd Ar y gwrthddrychau sy uwch y byd; Trysorau hyfryd can-mil gwell, Cuddiedig draw ar fryniau pell. O nertha f'enaid gwan ei ffydd, Roi 'ofal arnat ti bob dydd; Heb flino 'nghylch amseroedd draw, Y rhai o bosibl byth ni ddaw. Rho i mi lechu'n dawel glyd, Tu hwnt i sŵn fy meiau i gyd; Uwch twrf a themtasiynau'r llawr, Tan gysgod dy gyfiawnder mawr. A boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd Ddirgelion dystaw nefol fyd; A'm hunig bleser ddydd a nos Yn nyfnion wirioneddau 'r groes.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd O nertha f'enaid gwan ei ffydd O tyred y gogleddwynt Pererin wyf tua Salem bur Tyr'd nefol G'lomen oddi fry |
O Lord, attract my affection and my attention, To the objects which are above the world; Delightful treasures a hundred thousand times better, Hidden yonder on distant hills. [O Lord attract my affection and my attention, From the base objects of the world; To delightful treasure a hundred thousand times better, Ordained yonder on distant hills.] Yonder are our great Jesus and our God, And myriads of brethren to us living; There some are always extolling, Who were travelling with us in the world. They had climbed to their journey's end, They rest from their work's labour; Blessed would be being there forever, Praising sweetly amongst them. [They had climbed to their journey's end, After finishing their work's labour; How blessed I would be amongst them, Praising sweetly there forever.] See, before long we shall come together, From the four extreme corners of the world; From the north, south, and the far east, To get to enjoy a better fellowship. There pain and woe shall end, And all the afflictions of the godly ones, All the chosen kind shall get Face to face to see God. - - - - - O Lord, attract my affection and my mind To the objects above the world; Delightful treasures, a hundred thousand times better, Hidden yonder on distant hills. O to get a lovely view of the land, And the throne of our eternal Father; Where sits our Redeemer of great renown, In a body similar to our bodies. Come, heavenly Dove, from above, And raise us on dear wings; Ascend, and bring us up roundly Above all the things of this life. Bring those breezes down Which awaken the great convictions; And let the cosy south wind come Which raises my soul above the world. - - - - - O Lord, attract my affection and my mind To the objects that are above the world; Delightful treasures, a hundred thousand times better, Hidden yonder on distant hills. O strengthen the faith of my weak soul, To put its care upon thee every day; Without grieving about times to come, Those that possibly shall never come. Grant me to lurk quietly securely, Beyond the sound of all my faults; Above the tumult and temptations of the earth, Under the shadow of thy great righteousness. And let my ears always listen To the quiet mysteries of a heavenly world; And my only pleasure day and night In the deep truths of the cross.tr. 2016,20 Richard B Gillion |
|